Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Mawrth 2023
Amser:
13.31 -
16.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13248
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Nid oedd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
2.1 SL(6)328 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
3.1 SL(6)322 - Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Adolygu Mapiau) (Diwygio) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4 Fframweithiau cyffredin
4.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Fframwaith Cyffredin Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Diwygiadau i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU i gefnogi Cydbwyllgorau Corfforaethol
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog.
5.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Dilyniant i’r cyfarfod ar 16 Ionawr 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.3 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.4 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog.
5.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Lywydd: Bil Hawliau
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidogion at y Llywydd.
5.6 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.7 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd: Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Lywydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol ynghylch memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach.
5.8 SL(6)325 – Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i godi nifer o faterion.
6 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
8 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
9 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): canlyniad Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
10 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 3, Rhif 4 a Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Ar-lein
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol): Nodyn Cyngor Cyfreithiol
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
12 Blaenraglen waith
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.